Home > Uncategorized > Colofn yn y Llanelli Star yn trafod y bwriad i gau ffatri Schaeffler

Dyma fy ngholofn ar gyfer rhifyn heddiw y Llanelli Star yn trafod y newyddion syfrdanol bod Schaeffler yn bwriadu cau ei ffatri ym Mynea.

Rydw i newydd gael cyfarfod gyda Richard Harringron AS, un o weinidogion busnes llywodraeth y DU, er mwyn trafod y camau y gallwn ni eu cymryd er mwyn perswadio’r cwmni i ail-ystyried ei benderfyniad. Addawodd y gweinidog i wneud pob dim yn ei allu i wneud hi’n haws i Schaeffler aros yn Llanelli. Gyda’n gilydd, byddwn yn dadlau dros gadw’r ffatri ar agor mewn cyfarfod gyda rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni ar ddydd Gwener.

Rydw i’n gwybod bod Lee Waters AC wedi cynnal trafodaethau tebyg â Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi. Er ei fod yn ymddangos bod Schaeffler wedi gwneud penderfyniad terfynol, byddwn yn archwilio pob datrysiad posib er mwyn gweld os gall unrhyw beth gael ei wneud er mwyn cadw’r ffatri ar agor a helpu’r gweithwyr sy’n gweithio yno.