Home > Uncategorized > Carwyn Jones yn ymweld â sied storio Rheilffordd Llanelli

Roedd yn bleser croesawu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC i Lanelli’r bore yma er mwyn ymweld â Sied Storio Rheilffordd Llanelli – adeilad sydd cyferbyn i’r orsaf ac sydd wedi’i gofrestru fel adeilad rhestredig II rydym wedi derbyn caniatâd cynllunio i’w adnewyddu at ddefnydd y gymuned. Dyma Carwyn hefyd yn rhoi araith deilwng yn seremoni gosod torch i gofio’r 13 o weithwyr Great Western Railway bu farw yn y rhyfel byd cyntaf. Diolch enfawr i Gyngor Tref Lanelli a George Parker am y plac a’r llyfr yn trafod yr hanes hwn.