Home > Uncategorized > Agor arddangosfa diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf Theatr Ieuenctid Llanelli

Roedd yn fraint cael agor arddangosfa o waith gwych ysgolion lleol mewn cydweithrediad â Theatr ieuenctid Llanelli i gofio diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ynghyd â’r arddangosfa, fe adroddodd aelodau Theatr Ieuenctid Llanelli farddoniaeth a chawsom ein cyfarch gan bersonél a cheffylau wedi’u gwisgo yng ngwisg corfflu meddygol y Rhyfel Byd Cyntaf gyda chyfarpar o’r oes hefyd. Bydd gweithgareddau bellach gan ysgolion ar brynhawn dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener ynghyd â pherfformiadau o ddrama “Oh What a Lovely War” pob noswaith ac ar y penwythnos gan Theatr Ieuenctid Cymru. Bydd hefyd perfformiad stryd ar Sul y Cofio.