Home > Uncategorized > Ymgyrch dros doiled Changing Places yn Llanelli

Roedd erthygl da yn rhifyn newydd y Llanelli Star heddiw yn rhoi sylw i’n hymgyrch dros osod toiled Changing Places cwbl hygyrch yn y dref. Rwyf wedi bod cydweithio â chynghorwyr lleol ac ymgyrchwyr megis Claire Melville a Josh Rosenthal i ddod o hyd i leoliad addas yn Llanelli ar gyfer y toiled Changing Places, cyfleuster sy’n hanfodol i’r nifer o bobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd difrifol yn Llanelli.