Home > Uncategorized > Mae angen Swyddfa Bost parhaol ym Mhen-bre

Rydw i, Cyngh. Shirley Matthews a Lee Waters newydd fynychu cyfarfod gyda rheolwyr y Swyddfa Bost, Stuart Taylor a Jeremy Kiff. Pwysleisiom fod angen Swyddfa Bost parhaol mewn siop leol CYN GYNTED AG BO MODD.

Y newyddion da yw bod yna diddordeb gan unigolion lleol mewn rhedeg y swyddfa bost ond yn anffodus gallai’r broses o’i agor para hyd at chwe mis. Yna yn y cyfamser, bydd fan swyddfa bost yn cynnig gwasanaeth symudol am awr pob dydd Mercher ym maes parcio Eglwys Penbre.

Rydym wedi galw ar y swyddfa bost i ehangu ar yr awr yma a byddwn yn parhau i bwyso am ddatrysiad parhaol i’r broblem.