Home > Uncategorized > Datganiad ynghylch marwolaeth Denzil Davies

Rwy’n drist iawn i glywed y newyddion drwg, bod fy rhagflaenydd, y Gwir Anrhydeddus Denzil Davies, wedi marw. Roedd Denzil yn seneddwr talentog iawn. Roedd yn ddyn o ddeall gyda gallu gwych i siarad. Roedd wedi ennill ei blwyf yn siambr San Steffan a pharch yr ASau o bob liw trwy ei allu i areithio’n wych.

Bu’n gwasanaethu Etholaeth Llanelli gyda rhagoriaeth ac ymrwymiad am 35 mlynedd. Ar lefel bersonol, roedd yn ddiymffrost ac roedd pob tro yn sicrhau ei fod yn treulio amser yn trafod a sgwrsio â phobl. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ei gefnogaeth a chymorth tra oeddwn yn AS newydd.

Bydd colled enfawr ar ei ôl.