Home > Uncategorized > Cyhoeddi pwy ydy enillwyr cystadleuaeth cardiau Nadolig

Llongyfarchiadau i Talieah Bevan o Faes y Morfa ac Oliver Davies o Ddyffryn y Swistir am ennill cystadleuaeth blynyddoedd cerdyn Nadolig yr AS/AC! Bydd eu darluniadau hyfryd nawr yn cael eu harddangos ar y cardiau y mae Lee Waters AM a finnau’n eu danfon wrth i ni agosáu at Nadolig.

Diolch enfawr i’r holl ysgolion a gymerodd rhan ac i bob disgybl a ymgeisiodd. Roedd y cardiau i gyd wedi creu argraff enfawr arnom ni ac roedd yn anodd iawn dewis y darluniau buddugol. Diolch hefyd i’r beirniaid am wirfoddoli ac i Parker Plant Hire am noddi’r gystadleuaeth unwaith eto.