Home > Uncategorized > Cyfweliad ar raglen Sunday Politics Wales

Roeddwn yn un o westai Sunday Politics Wales y penwythnos yma lle atebais gwestiynau am Gynhadledd y Blaid yn Lerpwl. Yn y gynhadledd daeth gwahanol aelodau o’r blaid, undebau llafur ac aelodau cysylltiedig ynghyd er mwyn manylu ar ein gweledigaeth ar gyfer cymdeithas decach a beth sydd ar hyd y daith parthed Brexit wedi methiant llwyr y llywodraeth i sicrhau cynnydd.

Hefyd, cefais fy holi ynghylch chwech prawf y blaid Lafur sydd rhaid eu bodloni cyn i ni cefnogi unrhyw gytundeb byddai Theresa May, o bosib, yn ei sicrhau gan Frwsel. Eglurais fod y profion hyn wedi’u seilio ar uchelgeisiau personol y Prif Weinidog ynghylch Brexit ac mae’n rhaid eu bodloni er mwyn amddiffyn swyddi, hawliau gweithwyr ac ein heconomi.