Home > Uncategorized > Cyfarfod â thrigolion lleol ym Mhen-bre

Cafodd nifer o faterion pwysig eu codi yn ystod fy noswaith goffi ym Mhen-bre ar ddydd Gwener, gan gynnwys trafodaeth ar y swyddfa bost yn cau a chyflwr y llochesi fysiau. Byddaf yn delio â’r mater hwn a byddaf i, a Lee Waters AC, yn parhau i bwyso ar y Cyngor Sir i gymryd camau i leddfu’r traffig ofnadwy ar heol Sandy ac i wrando ar drigolion lleol NAD YDYN am weld maes parcio’r pysgotwyr yn troi’n faes parcio talu ac arddangos.