Home > Uncategorized > Cwmni Cydweithredol Ynni Cwm Gwendraeth

Mynychais gyfarfod da iawn â Chwmni Cydweithredol Ynni Cwm Gwendraeth dydd Gwener ddiwethaf. Mae’r gr?p a thrigolion yn frwdfrydig ac yn benderfynol o sefydlu cynllun ynni cymunedol yng Nghydweli.

Rydym am wneud ein rhan ni’n lleol i daclo’r newid yn yr hinsawdd, er gwaetha’r ffaith nad yw materion gwyrdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU o gwbl.