Home > Uncategorized > Sefyll cornel y rheiny sy’n dioddef oherwydd cwymp Equitable Life

Wrth barhau â’m hymgyrch dros ddioddefwyr cwymp Equitable Life, rwyf newydd gael cyfarfod gyda Gweinidog o’r Trysorlys, John Glenn AS i ddweud yn blwmp ac yn blaen bod angen cynnig iawndal teg i’r rheiny sy’n dioddef o gwymp y cynllun.

Mae’n rhaid i’r Llywodraeth rhoi’r gorau i ddefnyddio cyflwr cyllid cyhoeddus fel esgus…… mae hi bellach yn ddeg mlynedd ers yr argyfwng bancio ac mae’r economi yn gwella.

Dylai’r Llywodraeth gynnig iawndal teg i’r rheiny a gynlluniodd a chynilodd yn gyfrifol ar gyfer eu hymddeoliad gydag Equity Life gan mai methiant y llywodraeth i reoleiddio’n effeithiol sydd wedi arwain at y sefyllfa bresennol.

Pwysleisiais yr angen i ailystyried y cynnig presennol ar frys. Sut gallwn ddisgwyl i bobl cynilo’n gyfrifol os nad yw sefyllfaoedd fel hyn yn cael eu datrys?