Rydw i a’r Cyngh John Prosser yn cydweithio’n agos â chymdeithasau trigolion lleol Machynys er mwyn cadw mewn cysylltiad cyson â chontractwyr adeiladu a’r awdurdodau perthnasol er mwyn sicrhau ein bod nhw’n gweithredu ar ein pryderon.
Heddiw, buom yn cyfarfod â Carl Davey o Persimmon Homes er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi pellach i’r cynllun mabwysiadu ffyrdd a gwaith adfer a thacluso. Byddwn yn cynnig diweddariad manylach i drigolion yn fuan.
Mae trigolion yn gwsmeriaid craidd i’r cwmnïau hyn ac maent yn haeddu derbyn amserlen gywir sy’n nodi pryd bydd y gwaith yn cael ei gwblhau’n iawn.