Home > Uncategorized > Gwobrau Theatr Ieuenctid Llanelli

Gwelom berfformiadau o safon uchel iawn yn noson wobrwyo Theatr Ieuenctid Llanelli, fel yr arfer.

Mae LYT wedi bod yn sail ysbrydoledig i nid yn unig gweithwyr proffesiynol ym maes actio llwyfan a sgrin ond hefyd i bobl ifanc sy’n mynd yn eu blaenau i weithio ym meysydd eraill. Mae’r bobl ifanc hyn yn dangos eu brwdfrydedd trwy barhau i ddychwelyd ar gyfer y noson… neu trwy beidio â gadael!

Mae LYT wedi bod ar agor ers 1984 – dyma’n edrych ymlaen at ragor o flynyddoedd llwyddiannus. Hoffwn ddiolch i Chris Rees a Jill Stevens am eu brwdfrydedd ysbrydoledig a’u gwaith caled parhaol dros Theatr Ieuenctid Llanelli.