Home > Uncategorized > Gwaraed ar daliadau parcio ceir yn Ysbyty Tywysog Philip ac ysbytai eraill ledled Cymru

O’r diwedd! Does ddim rhaid talu i barcio’ch car yn Ysbyty Tywysog Philip nac Ysbyty Glangwili ychwaith. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i sicrhau parcio am ddim YM MHOB UN ysbyty. Gallwn ddiolch i’r Cyn-weinidog Iechyd, Edwina Hart o’r blaid Lafur, a benderfynodd gael gwared ar y taliadau yn 2008. Er, roedd gennym yma yng Ngorllewin Cymru rhai o’r contractau mwyaf hirdymor gyda chwmnïau parcio ac roedd yn rhaid aros iddyn ddod i ben.

Efallai y byddwch yn cofio mai Edwina Hart oedd hefyd yn gyfrifol am ddychwelyd contractau glanhau ysbytai o gwmnïau’r sector preifat yn ôl i’r ysbytai eu hunain. Lle nad yw cwmnïau sector preifat yn diwallu anghenion yr ysbytai neu le nad ydyn yn sicrhau budd i’r cyhoedd, mae’n rhaid ein bod ni’n barod i’w herio ac i wneud pethau’n wahanol, megis cymryd cyfrifoldeb mewnol.