Home > Uncategorized > Cyfweliad yn cefnogi ymgyrch #CofioJim

Rwy’n falch o fod yn rhan o fideo byr i gefnogi ymgyrch Theo i sicrhau cofeb mwy gweladwy a pharhaol i’r AS Jim Griffiths, megis cerflun yn Llanelli. Mae’n bwisg ein bod ni’n gofyn am adborth am le y byddai’n fwyaf addas gosod y cerflun. Pe byddai o hyd yn fyw heddiw, byddai Jim yn gweld bod ffurf gwleidyddiaeth wedi newid ond bod yr hyn yr ymgyrchodd drosto yn wynebu bygythiadau newydd: gwarchod swyddi, cynnig cymorth i fenywod a phlant trwy’r lwfans teulu (budd-dal plant bellach), iawndal anafidau diwydiant ,datganoli a pharch i bawb o bob cefndir a hil.