Home > Uncategorized > Ymgyrch i sicrhau toiled cwbl hygyrch yn Llanelli

Mynychais gyfarfod ddoe i drafod y camau nesaf yn ein hymgyrch i sicrhau toiledau ‘Changing Places’, hynny yw toiledau sy’n gwbl hygyrch, yn nhre Llanelli. Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan ddiffyg y cyfleusterau hanfodol hyn yn lleol neu os ydych am gyfranogi i’r ymgyrch, cysylltwch â mi.