Home > Uncategorized > Sefyll cornel cyn-weithwyr Roadchef

Yn gynharach yn yr wythnos cyfarfyddais â chyn-weithwyr Roadchef. Roedd y cyn-weithwyr wedi colli eu hawl at arian o ganlyniad i dwyll cyn-gadeirydd y cwmni. Yn 2014, roedden yn falch o glywed bod yr arian wedi cael ei adennill ond maent o hyd yn aros i CThEM caniatáu iddyn nhw gael mynediad ato.

Rwyf wedi ysgrifennu llythyr at CthEM yn eu hannog i ddatrys y sefyllfa ar frys ac i sicrhau bod y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio, y rhan fwyaf yn weithwyr a oedd yn derbyn tâl isel ac sydd heb bensiwn sylweddol, yn derbyn yr arian y mae ganddyn nhw’r hawl ato.