Home > Uncategorized > Ponciau arafu ar Heol y Strade

Mynychais gyfarfod i drafod dulliau tawelu traffig yn y Ffwrnes heddiw gyda’r Cyngh. Penny Edwards. Hoffwn ddiolch i’r nifer o drigolion lleol a fynychodd y cyfarfod ac i swyddogion y cyngor am dreulio eu hamser yn gwrando ar y cwynion. Bydd angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod y dulliau cywir yn cael eu gosod er mwyn arafu ceir sy’n teithio ar hyd Heol y Strade ac er mwyn sicrhau ein bod ni’n ennill y budd mwyaf o’r arian yr ydym wedi ei sicrhau trwy’r cynllun ‘ffyrdd diogel yn ein cymunedau’.