Mae gennym nifer o siopau bychain gwych yma yn Llanelli ac felly rwy’n annog perchnogion siopau lleol i enwebu eu busnesau i gael cystadlu yng Nghystadleuaeth Siopau Gorau’r DU.
Bydd pob un siop sy’n cael ei henwebu yn cael ei hyrwyddo mewn Cyfeiriadur Ar-lein yn rhestru siopau annibynnol. Bydd y 25 busnes sy’n cyrraedd y rhestrer yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad yn Senedd San Steffan yng nghwmni finnau, Aelodau Seneddol eraill a pherchnogion siopau o bob cwr y DU.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chyflwyno cais yma: https://www.indieretail.uk/best-small-shops/