Home > Uncategorized > Coffáu Streic y Gweithwyr Rheilffordd yn 1911

Yr wythnos hon, rydym yn coffáu Streic y Gweithwyr Rheilffordd a ddigwyddodd yma yn Llanelli yn 1911, 107 mlynedd yn ôl i heddiw. Dyma filoedd o weithwyr yn uno er mwyn protestio yn erbyn tâl isel ac amodau gwaith gwael. Rydym hefyd yn cofio dau berson bu farw o dan amgylchiadau trist wrth gymryd rhan yn y streic.

Mae’n bwysig myfyrio ar achosion yr anfodlonrwydd yma ac ystyried yr hyn y mae rhaid ei wneud heddiw i wella amodau gwaith y gweithlu rhanedig presennol ac i daclo diffyg sicrwydd swyddi’r byd modern.