Home > Uncategorized > Cefnogi ymgyrch #CofioJim

Rwyf wrth fy modd yn cefnogi ymgyrch #CofioJim, ymgyrch sydd am godi cerflun o’r cawr Jim Griffiths a oedd yn Aelod Seneddol dros Lanelli am 34 mlynedd.

Roedd Jim yn eiriolwr brwd dros drigolion Cymru, ef oedd yr unigolyn cyntaf i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rôl a gafodd ei greu yn 1964. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr y wladwriaeth les fel y Gweinidog dros Yswiriant Gwladol yng nghabinet llywodraeth ôl-rhyfel Clement Attlee.

Rwyf i a Lee Waters AC wedi enwi ein swyddfa ar ôl Jim er mwyn nodi ei gyflawniadau a’i flynyddoedd o wasanaethu. Rwy’n gobeithio y bydd modd i gynghorau lleol cydweithio er mwyn dod o hyd i ffordd arall y gallwn nodi un o gewri mwyaf y mudiad Lafur.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan hon: https://www.cofiojim.com/