Mae canlyniadau ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar ddyfodol ysbytai’r ymddiriedolaeth wedi cael eu cyhoeddi. Maent yn dangos bod gwrthwynebiad llethol i’r cynnig oedd am israddio Ysbyty Tywysog Philip ymhlith y 5,000+ a atebodd holiadur yr ymgynghoriad.
Y dewis mwyaf poblogaidd oedd cadw ysbyty cyffredinol yn Llanelli. Nododd nifer o bobl y byddai israddio o unrhyw fath yn Llanelli yn gorfodi trigolion Llanelli i deithio i ysbyty Treforys yn Abertawe. Byddai hyn yn cynyddu’r pwysau ar Fwrdd Iechyd Abertawe. Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod pryder enfawr ynghylch codi ysbyty newydd rhwng Arberth a San Clêr oherwydd anawsterau teithio a recriwtio.
Byddaf yn ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd i adleisio’r uchod a byddaf yn parhau i frwydro dros gadw Ysbyty Tywysog Philip yn ysbyty cyffredinol llawn a sicrhau’r ystod fwyaf eang posib o wasanaethau yma yn Llanelli.