Home > Uncategorized > Trafod pryderon ynghylch y diwydiant Dur

Heddiw, fel aelodau seneddol sy’n ymwneud â’r diwydiant dur, cyfarfyddon â Goerge Hollingbery AS, y gweinidog newydd dros fasnach ryngwladol.

Cefais gyfle i ddatgan ein pryderon go iawn ynghylch y tollau newydd ar allforion dur o Drostre y mae Trump wedi eu gweithredu. Pwysleisiais yr angen i wneud pob dim yn ein gallu i gael ein heithrio o’r tollau hyn. Hefyd, fel gr?p, fe dynnom sylw at yr angen i gryfhau’r gweithrediadau gwrth-dympio dur rhad i’r farchnad sydd yn eu lle, er mwyn amddiffyn ein diwydiant dur.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark AS, wedi addo cyfarfod â ni wythnos nesaf, felly dyma gyfle arall i ni dynnu sylw at y pryderon hyn.