Home > Uncategorized > Peryg bod colli peiriannau twll yn y wal yn cael effaith negyddol ar siopwyr a busnesau bychain

Rydw i wedi bod yn cadw llygad barcud ar ddarpariaeth peiriannau twll yn y wal nad ydyn yn codi ffi i dynnu arian ers i’r rhwydwaith peiriannau twll yn y wal LINK cyhoeddi ei fod yn lleihau’r ffi sy’n cael ei thalu i gwmnïau sy’n cynnal y peiriannau. Gall hyn golygu bod rhai peiriannau yn cau. Y mis hwn, cyfarfyddais â Which?, Ffederasiwn y Busnesau Bychain a’r Rheoleiddiwr Systemau Talu er mwyn trafod effaith y newid ar siopau bychain nad ydyn yn gallu derbyn taliadau trwy gardiau am symiau bychain o arian.

Rwy’n falch bod LINK yn gwrando ar ein pryderon trwy ganslo ac adolygu rhai o’r cynlluniau i leihau’r ffioedd. Mae cymorth hefyd ar gael i gadw peiriannau mewn mannau anghysbell ac ardaloedd difreintiedig ar agor. Felly, os ydych yn gofidio y bydd twll yn y wal leol neu siop leol â pheiriant codi arian ynddi yn cau, rhowch wybod i mi a byddaf yn codi hyn â LINK.