Home > Uncategorized > Dylai Llywodraeth Prydain fuddsoddi yn niwydiant gweithgynhyrchu Prydain

Roedd yn dda gweld Jeremy Corbyn yn nodi gweledigaeth y blaid Lafur i fuddsoddi yn niwydiant gweithgynhyrchu Prydain. Mae’r ddadl dros ddyfarnu contractau mawr y Llywodraeth i gwmnïau’r DU yn llethol.

Am bob punt sy’n cael ei gwario yma, mae 30c yn cael ei dychwelyd i’r trysorlys trwy drethi. Mae dyfarnu’r contractau i gwmnïau lleol hefyd yn galluogi’r cwmnïau hyn i  gynnal swyddi trigolion lleol ac yn cefnogi cwmnïau sy’n gweithgynhyrchu darnau cydrannol fel y rhai sydd wedi eu lleoli yma yn Llanelli. Ar ben hyn, mae buddion economaidd eraill megis y ffaith bod swyddi yn cael eu creu yng nghadwyn cyflenwi’r cwmnïau sy’n ennill y contractau a gallu gweithwyr y cwmnïau hyn i wario mwy o arian yn eu cymunedau.

Felly, mae’n bryd i ni stopio arfer drwg y Torïaid o ddyfarnu contractau i gwmnïau o dramor. Mae’n bryd i ni gefnogi cwmnïau Prydeinig unwaith eto!