Home > Uncategorized > Dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 yn Ysbyty y Tywysog Philip

Hoffwn estyn ddiolch arbennig i holl staff y GIG am eu holl waith caled pob diwrnod o’r flwyddyn.

Roedd dathliad ardderchog yn Ysbyty Tywysog Philip heddiw er mwyn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70. Roedd corau ysgol yn canu ar y wardiau a the i’r holl gleifion yn dilyn y canu.

Yn y cyfamser, buodd côr staff Ysbyty Tywysog Philip yn canu caneuon teyrnged ddiwygiedig i ddiddanu staff ac ymwelwyr tu allan i’r ffreutur.