Home > Uncategorized > Cwmni John Burns wedi ei enwebu am wobr busnesau cyfrifol

Roedd yn wych cael cwmni John Burns yn San Steffan heddiw. Mae ei gwmni bwyd anifeiliaid anwes sydd wedi ei seilio yng Nghydweli wedi cael ei enwebu am wobr Eiriolwr Busnesau Cyfrifol Cenedlaethol.

Mae’n braf gweld bod ymdrechion John Burns i ymgysylltu â’r gymuned leol a’r ffaith ei fod yn talu cyflog byw go iawn i’w staff yn cael eu hadnabod. Ar ben hyn, mae ei Siop Fferm, Parc y Bocs, yn gartref i’r unig doiled sy’n gwbl hygyrch i bobl anabl yn Llanelli.