Home > Uncategorized > Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Rwy’n pryderi’n fawr iawn dros gynlluniau’r Bwrdd Iechyd ar gyfer y dyfodol. Oherwydd hyn, y bore yma, mynychais ei gyfarfod a holais gwestiwn bedwar-rhan. Gallwch weld fy nghwestiwn ac ymatebion Hywel Dda isod. Byddaf yn parhau i holi cwestiynau gan dynnu sylw at y ffaith bod angen i ni gael yr ystod fwyaf eang posib o wasanaethau yma yn Llanelli.

Fy ngwestiynau

Cefndir: Roedd tri dewis yr ymgynghoriad diweddar am symud yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys i ysbyty newydd “rhwng San Clêr ac Arberth” (Yr Hendy-gwyn), ymhell iawn rhag rhan fwyaf poblogaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sy’n byw, yn bennaf, yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin (Llanelli, Cwm Gwendraeth a Chymoedd Rhydaman). Oherwydd hyn, rwy’n pryderi’n fawr iawn dros y costau teithio ychwanegol y bydd cleifion a’r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu a chapasiti’r wasanaeth ambiwlansiau. Pryd bydd cleifion yn cael eu hanfon yn ôl i’w cartrefi, bydd nifer ohonyn nhw yn rhy fregus neu’n rhy sâl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac mae’n debyg y bydd cost tacsis yn rhwystro nifer rhag eu defnyddio. Rwyf hefyd yn gofidio y bydd hi’n anodd i bartneriaid a theuluoedd cleifion teithio i’r Hendy-gwyn i’w gweld. Felly, byddwn yn ddiolchgar petai chi’n gallu ateb y cwestiynau canlynol.

Cwestiwn: Gan ystyried y cynnig i symud yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys i ysbyty newydd “Rhwng San Clêr ac Arberth”,

  1. Os ydy protocolau yn danfon ambiwlansiau i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys agosaf mewn achosion lle bydd bywyd unigolyn o dan beryg mawr, a ydych wedi asesu’r posibilrwydd o gynnydd mewn nifer yr achosion lle bydd cleifion yn cael eu cludo i Ysbyty Treforys fel yr ysbyty agosaf, o ganlyniad i’r diffyg Uned Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghaerfyrddin?
  2. Gan ystyried y cynllun i symud yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys i’r Hendy-gwyn, a oes asesiad wedi cael ei gynnal i’r cynnydd tebyg yn nifer y cleifion a fydd yn dewis teithio i, neu deulu a fydd yn cludo eu teulu sâl i, Ysbyty Treforys gan fod yr ysbyty yn agosach nag yr Hendy-gwyn neu oherwydd pryderon teulu dros eu gallu i deithio i ymweld â’u teulu os byddan yn cael eu cadw yn yr ysbyty? Mae hyn yn arbennig o bwysig i drigolion Dwyrain Sir Gaerfyrddin, lle mae’r rhan fwyaf o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn byw.
  3. Pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal gyda Bwrdd Iechyd PABM a Llywodraeth Cymru ynghylch darparu staff, gwelâu a chyfleusterau ychwanegol yn Ysbyty Treforys er mwyn i’r ysbyty gallu delio â’r cynnydd yn nifer y cleifion a nodwyd yn (A) a (B)?
  4. Ar ben hyn, os bydd yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn cael ei symud o Gaerfyrddin, bydd yna mwy o gleifion sy’n byw yn agosach at Lanelli nag yn agosach at yr uned newydd arfaethedig yn yr Hendy-gwyn. Gan ystyried hyn, pa gynlluniau sydd i wella cyfleusterau mân anafiadau ysbyty Llanelli ac/neu gyfleusterau mân anafiadau Ysbyty Glangwili.

Ymateb y Bwrdd Iechyd