Home > Uncategorized > Arddangosfa ffotograffiaeth o Borth Tywyn

Llongyfarchiadau i Ray Hobbs o Borth Tywyn am orffen ei radd ac am ei arddangosfa o ffotograffiaeth ddwys yn M.A.D.E Community Café yng Nghaerdydd. Cefais y pleser o agor yr arddangosfa yr wythnos hon.

Roedd yn fraint cael clywed gan rhai o destunau’r lluniau a gweld sut mae Ray wedi llwyddo mynegi meddyliau a theimladau ei destunau trwy’r ffordd y mae wedi dewis a dethol cynnwys y lluniau. Mae’r lluniau yn sicr yn tynnu sylw at effaith cadarnhaol mudiad Men’s Sheds. Roedd yn anogaeth i mi glywed gan Gareth o Gomisiwn y Bobl H?n ynghylch ei syniad o fynd â gwaith Ray ar daith ar fws o amgylch y wlad er mwyn ysbrydoli eraill.