Home > Uncategorized > Ymweld â Chwarel Torcoed

Ymwelais â Chwarel Torcoed yn Mynyddcerrig yng nghwmni’r Cynghorydd Dot Jones a Swyddog Ffyrdd y Sir, John McEvoy yn ddiweddar. Fe drafodom ofidion a godwyd gan drigolion ynghylch lorïau yn teithio ar hyd Heol Caerfyrddin, Crosshands trwy’r Tymbl.

Ceisiom edrych ar ddulliau o leihau nifer y cerbydau sy’n teithio ar ffordd hwn a sut y gallwn leihau’r effaith ar drigolion.