Home > Uncategorized > Y blaid Lafur am wahardd mewnforio ffwr

Roedd yn wych cael gweld cynifer o Aelodau Seneddol y Blaid Lafur yn dadlau o blaid gwahardd mewnforio ffwr yn Nadl y Senedd heddiw. Fe waharddwyd y weithred o ffermio ffwr o dan y llywodraeth Llafur diwethaf ac rydym wedi addo gwneud pob dim yn ein gallu i wahardd mewnforio ffwr.

Os ydy’r Llywodraeth am warchod lles anifeiliaid o ddifrif, mae angen iddo gymryd camau llawer cryfach er mwyn taclo’r fasnach ffwr rhyngwladol.