Home > Uncategorized > Prosiect Theatr Ieuenctid Llanelli yn coffáu diwedd y rhyfel byd cyntaf

Mae prosiect cyffroes wrthi’n cael ei gynllunio gan Theatr Ieuenctid Llanelli. Mae’r gr?p theatr wrthi’n cydweithio ag ysgolion a’r gymuned i goffau diwedd y rhyfel byd cyntaf trwy ei gynhyrchiad o ‘Oh What a Lovely War’.

Bydd aelodau o’r theatr yn cynnal perfformiad stryd y tu allan i Theatr y Ffwrnes mewn gwisg o’r oes ar Sul y Cofio sy’n digwydd bod ar yr un diwrnod a arwyddwyd y cadoediad yn 1918 eleni – sef yr 11eg o Dachwedd.

Bydd hefyd perfformiadau eraill ac arddangosfa ar y diwrnod. Mae prosiect ysgol hefyd ar waith yn paratoi at Sul y Cofio.