Home > Uncategorized > Gwarthus! Llywodraeth y DU yn pleidleisio dros beidio ag adeiladu morlyn llanw Abertawe

Mae penderfyniad annoeth Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ati i adeiladu morlyn llanw yn Abertawe yn siom enfawr i mi. Mae’n gywilyddus bod y llywodraeth wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r cynlluniau ar ôl dros flwyddyn o ddrysu ac oedi. Dyma brosiect a fyddai wedi sefydlu Cymru fel un o geffylau blaen y diwydiant ynni gwyrdd o’r môr. Byddai hefyd wedi sicrhau cronfa o ynni glân ar gyfer y dyfodol a hwb enfawr i economi Cymru.

Mae’r Torïaid wedi siomi Cymru unwaith eto. Maent yn bwrpasol yn anwybyddu adroddiad Hendry a argymhellodd fwrw ati gyda’r cynlluniau i adeiladu’r morlyn ac i fuddsoddi yn niwydiant dur Cymru i gynhyrchu’r cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen i’w adeiladu. Dyma nhw hefyd yn troi eu cefnau ar y cymorth ariannol a gynigodd Llywodraeth Llafur Cymru. Bydd y blaid Lafur yn brwydro yn erbyn y penderfyniad hynod o warthus hwn, a byddwn yn parhau i ymgyrchu dros fuddsoddiad teg yng Nghymru.