Home > Uncategorized > Dylai upskirting fod yn drosedd rhywiol penodol

Prin ydy’r dyddiau Gwener lle rydw i yn Senedd San Steffan yn hytrach na Llanelli. Ond, yr wythnos hon rydw i yna i gefnogi Cynnig Aelod Preifat Gina Martin sy’n ymgyrchu i nodi upskirting fel trosedd rhywiol penodol. Cyfarfyddais â Gina yn gynharach yn yr wythnos i glywed am ei hymgyrch ddi-baid i newid y gyfraith fel bydd modd erlyn sinachod sy’n tynnu lluniau oddi tano sgertiau menywod yn iawn.

Mae’r blaid Lafur wedi cefnogi’r bil yma o’i gychwyn ac rwy’n falch o weld bod y Llywodraeth wedi penderfynu ei gefnogi o’r diwedd. Ond, yn anffodus wnaeth un aelod seneddol Ceidwadol o’r meinciau cefn ymddwyn mewn ffordd digywilydd trwy wrthwynebu’r bil a’i rwystro. Er gwaethaf hyn, byddwn yn parhau i ymladd i sicrhau bod upskirting yn cael ei nodi fel trosedd penodol trwy gydweithio â’r Llywodraeth i basio’r bil.