Home > Uncategorized > Cefnogi Wythnos y Gofalwyr yn San Steffan

Roedd yn wych cael dathlu gwaith gofalwyr gwirfoddol yn un o’r digwyddiadau a gynhaliwyd i ddathlu Wythnos y Gofalwyr yn San Steffan.

Mae Wythnos y Gofalwyr pob tro yn gyfle gwych i dynnu sylw at ymroddiad di-baid y rheiny sy’n gofalu dros ffrindiau a theulu. Dyma’n diolch iddyn nhw am eu cyfraniad enfawr at ein cymunedau, mae’n rhaid sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gefnogaeth maent yn ei haeddu.