Home > Uncategorized > Brwydro dros fwy o doiledau Changing Places yn Llanelli

Roeddwn yn Senedd San Steffan heddiw i gefnogi un o gynigion fy nghydweithwyr, Paula Sherriff AS, i hyrwyddo toiledau Changing Places. Mae gwir angen mwy o’r toiledau gwirioneddol hygyrch yma arnom ar draws y DU, ond yn enwedig yn Llanelli. Ond un o’r toiledau yma sydd yn Llanelli, yn Siop Fferm John Burns yng Nghydweli. Pob clod i John am osod y toiled ar ei liwt ei hun, ond mae gwir angen i Gyngor Sir Gâr weithredu a gosod rhai toiledau Changing Places nhw ei hunain.