Home > Uncategorized > Gwasanaethau Meddygfa Ash Grove i barhau

Ar ôl holi’r Bwrdd Iechyd ynghylch y diweddar ar ddyfodol meddygfa Ash Grove yn ein cyfarfod ar ddydd Gwener, roedd yn rhyddhad i mi dderbyn cadarnhad y bydd cleifion Meddygfa Ash Grove yn gallu parhau i ddefnyddio’r feddygfa meddyg teulu hollbwysig hon ar ôl mis Medi.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi addo rheoli’r feddygfa yn uniongyrchol tan eu bod nhw’n gallu dod o hyd i drefniant hir tymor boddhaol. Byddaf i a Lee Waters AC yn parhau i ddilyn unrhyw newid yn y sefyllfa gan herio’r Bwrdd Iechyd i gadw mewn cysylltiad cyson â chleifion.