Home > Uncategorized > Canlyniadau’r ymgynghoriad ynghylch traffig ar Heol Sandy

Diolch i bawb a lenwodd ein holiadur ynghylch y problemau traffig ar Heol Sandy.

Rydym yn galw ar y Cyngor Sir i flaenoriaethu lleddfu’r traffig ar Heol Sandy ac rydym wedi adrodd prif ganlyniadau’r ymgynghoriad i’r Cyngor ynghyd â rhoi rhestr hir yn cynnwys eich sylwadau ac argymhellion iddyn nhw. Mae’ch sylwadau ac argymhellion yn cynnwys; cadw goleuadau traffig y prif ffordd yn wyrdd am gyfnod hirach, newid y system goleuadau traffig i un sydd ond yn troi’n goch pan fydd trigolion yn pwyso botwm i groesi, gwahardd ceir rhag troi i’r dde i Maesycoed, creu ffordd newydd i mewn i’r ystâd tai newydd megis trwy Stryd Chapman ac yn y blaen.

Byddaf yn llwytho’r wybodaeth i’m gwefan yn fuan ac yn anfon e-bost at drigolion sydd wedi rhoi eu cyfeiriadau e-bost i mi.