Home > Uncategorized > Sefyll Cornel Ysbyty Tywysog Philip

Rwy’n falch o gefnogi Shaun ac Adrian sy’n ymgyrchu dros gadw gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip.

Gyda’r ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau’r ysbyty yn dechrau yn ddiweddarach yn yr wythnos, rwyf wedi pwysleisio’n gryf iawn yr angen i gynnal sesiynau cynnar ar gyfer y cyhoedd yn Llanelli i’r Bwrdd Iechyd. Pwysleisiais hefyd yr angen i bersonél addas sydd â’r wybodaeth a’r awdurdod i allu ateb ein cwestiynau ac i egluro’r hyn a olygir gan y cynigion bod yn bresennol.

Byddaf yn siarad yn gryf ac yn gadarn dros yr angen i gadw gwasanaethau ac i fuddsoddi ymhellach.