Rydym yn falch o weld cynrychiolwyr undeb y GMB o iardiau llongau a gwaith dur pob cwr y Deyrnas Unedig yn lansio eu hadroddiad rhagorol “Troi’r llanw: ail-adeiladu diwydiant adeiladu llongau amddiffyn a Gorchymyn Cymorth Solet Fflyd y DU” heddiw.
Mae’r adroddiad yn dangos yn glir y gwerth economaidd enfawr sy’n cael ei ennill trwy ddyfarnu archebion y Llywodraeth i gwmnïau yn y DU yn hytrach na agor y proses tendro i gwmnïau o dramor. Am bob punt sy’n cael ei wario ar adeiladu llongau yn y DU mae 36c yn cael ei ddychwelyd i’r Trysorlys mewn treth. Ar ben hyn, mae rhaid ystyried grym gwario’r gweithwyr cwmnïau Prydeinig yn eu cymunedau lleol – sy’n cefnogi busnesau lleol.
Mae hyn yn synnwyr cyffredin, ac mae gwledydd eraill yn deall hyn. Mae’n warthus bod y Torïaid yn benderfynol o adael i gwmnïau tramor cyflwyno ceisiadau am gontractau o’r llywodraeth heb roi unrhyw ystyriaeth i’r buddion economaidd ehangach o brynu yn y DU.