Home > Uncategorized > Cyfarfod cyhoeddus SOSPPAN ar y 12fed o Fai

Dewch i’n cyfarfod cyhoeddus i drafod argymhellion y Bwrdd Iechyd ar ddyfodol gwasanaethau ein hysbyty am 3.30yh ar ddydd Sadwrn y 12fed o Fai yng Nghanolfan Selwyn Samuel: https://www.facebook.com/events/1654747064612889/

Yn y cyfamser, os ydych yn adnabod rhywun a fyddai well genyn nhw lenwi copi caled o holiadur yr ymgynghoriad, yn hytrach na gorfod ei lenwi trwy’r porth ar-lein, mae’r Bwrdd Iechyd wedi addo i mi a Lee Waters bydd genyn gopïau caled o’r holiadur ar gael o’r 27ain o Ebrill yn ein swyddfeydd ar 43 Heol Pottery, Llanelli (cyferbyn Asda).

Yn ôl y sôn, mae cod bar unigryw ar bob un felly nad oes modd i ni eu llungopïo. Dyma ddolen gyswllt i fersiwn ar-lein o’r holiadur: https://www.ors.org.uk/web/index.php/survey/index/sid/751664/newtest/Y/lang/en