Home > Uncategorized > Cwrdd â’r Cyngor Iechyd Cymunedol ynghylch Meddygfa Ash Grove

Diolch i’r Cyngor Iechyd Cymunedol am ymuno â ni heddiw yng nghyfarfod a drefnwyd i drafod pryderon ynghylch Canolfan Iechyd Ash Grove. Trefnwyd y cyfarfod wedi i nifer o gleifion codi pryderon ar ôl iddyn nhw dderbyn llythyr oddi wrth Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn nodi newidiadau i’r canolfan.

Byddaf i a Lee Waters AC yn rhoi pwysau ar y Bwrdd Iechyd i ddiweddaru cleifion ynghylch eu hymdrechion i gael Meddygon Teulu newydd i gynnal y gwasanaeth cyn gynted ag sy’n bosib. Mae’r Bwrdd Iechyd yn hyderus y byddan yn gallu cyflogi doctoriaid newydd ac felly NAD OES angen i gleifion wneud unrhyw beth.