Home > Uncategorized > Cwrdd â LINK i drafod peiriannau twll yn y wal di-dâl

Cwrddais â LINK wythnos ddiwethaf i drafod y ffordd y gall eu cynlluniau i leihau’r ffioedd a delir i weithredwyr peiriannau twll yn y wal cael effaith niweidiol ar nifer y peiriannau sydd ar gael ym mannau gwledig a difreintiedig megis y rheiny yn etholaeth Llanelli.

Newyddion da oedd clywed LINK yn rhoi sicrwydd y bydd modd iddyn nhw gynnig cymorthdaliadau uwch i weithredwyr peiriannau twll yn y wal mewn mannau ynysig lle mae’r peiriannau, yn aml, yn asgwrn cefn i’r cymunedau lleol. Byddan hefyd yn ymchwilio i fannau lle mae darpariaeth peiriannau twll yn y wal ddi-dâl o dan fygythiad yn ogystal â phentrefi lle nad oes ganddyn nhw beiriant twll yn y wal ddi-dâl.

Byddaf yn parhau i gadw lygaid barcud ar y sefyllfa gan adrodd unrhyw fygythiadau posib i wasanaethau twll yn y wal at LINK yn uniongyrchol.