Home > Uncategorized > Brwydro yn erbyn argymhelliad y Bwrdd Iechyd i israddio Ysbyty Tywysog Philip

Gyda’r ymgynghoriad ar ysbytai Hywel Dda yn dechrau’r wythnos yma, byddaf yn dweud wrth y Bwrdd Iechyd, yn ddi-flewyn-ar-dafod, am yr angen i ni gadw Ysbyty Tywysog Philip yn ysbyty cyffredinol llawn sy’n cynnig ystod lawn o wasanaethau.

Llanelli yw’r dref fwyaf yn ardal Hywel Dda o bell ffordd. Felly, mae’n bryder mawr i weld bod un o opsiynau’r ymgynghoriad yn cynnig israddio gwasanaethau Ysbyty Tywysog Philip. Nid yw’n dderbyniol disgwyl trigolion i deithio milltiroedd.

Mi wn nad oes angen i mi atgoffa pobl yma yn Llanelli am yr angen i ymateb i’r ymgynghoriad gan sicrhau ein bod ni’n dweud ein dweud yn glir ac yn uchel.