Roeddwn ar raglen Newyddion 9 S4C neithiwr yn siarad am y ffaith bod gwasanaethau Meddyg Teulu ar benwythnosau Ysbyty’r Tywysog Phillip ac Ysbyty Glangwili wedi cael eu hatal dros dro.
Mae’r sefyllfa yn un sy’n gwbl annerbyniol ac wrth i mi gwrdd â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda wythnos nesaf byddaf yn mynnu esboniad ynghylch pam mae’r gwasanaethau hyn wedi cael eu hatal dros dro. Byddaf hefyd yn mynnu bod y Bwrdd Iechyd yn rhoi sicrwydd y bydd y gwasanaethau craidd hyn yn gallu cael eu hadfer yn Llanelli.