Home > Uncategorized > Prosiect plannu coed Sefydliad y Menywod

Mynychodd nifer fawr o bobl gyfarfod brwd Sefydliad y Menywod ynghylch ei brosiect i gynyddu nifer y coed yn ardaloedd trefol heddiw.

Bellach, mae nifer o bethau i ni weithredu arnyn nhw er mwyn sicrhau cynnydd y prosiect. Gall grwpiau cymunedol gwneud cais i Goed Cadw er mwyn gallu derbyn coed i’w plannu, gall gynghorwyr nodi tir lle gellir plannu coed a gallwn ni gyd arolygi’r coed yn ein hardal leol gan gyflwyno’r wybodaeth a gasglwyd i wefan Treezilla.

Hoffwn estyn diolch arbennig i Julie Joliffe, Mair Stephens ac Angela Thomas o Sefydliad y Menywod a Jerry Langford o Goed Cadw. Mae digon y gall pobl gwneud i gefnogi’r prosiect, felly cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn ymwneud ag ef.