Home > Uncategorized > Mae datblygwyr yn cloddio tir ger bron Heol Bronallt

Mae’n arswyd mawr i mi weld bod datblygwyr yn cloddio’r tir ac yn chwalu coed Y TU ALLAN I’R ardal lle maent wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 8 o dai.

Os ydynt am adeiladu mwy o dai, bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno cais cynllunio pellach ac NID OES sicrwydd y byddan yn llwyddiannus. Mae’n ofid mawr i mi weld eu bod yn ei chymryd hi’n ganiataol y bydd caniatâd am fwy o dai yn cael ei roi – os nad ydynt yn ei chymryd yn ganiataol, pam maent yn gwario’r holl arian yn gwneud y gwaith?

Roedd yn siom enfawr i mi weld nad oedd swyddogion gorfodi’r adran gynllunio yn gallu gwneud unrhyw beth ynghylch y sefyllfa. Fe esbonion nhw’r ffaith nad oes angen unrhyw ganiatâd cynllunio i gloddio tir ar yr amod bod perchennog y tir yn rhoi caniatâd iddyn nhw ei wneud. Rwyf wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru ynghylch materion bywyd gwyllt ac amgylcheddol.