Home > Uncategorized > Dyfodol Canolfan Feddygol Ash Grove

Rwy’n pryderi’n fawr iawn wrth glywed y bydd Partneriaid Canolfan Feddygol Ash Grove yn rhoi’r gorau i’w contract gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystod y flwyddyn hon. Mae angen mynediad at Feddyg Teulu lleol ar bob un ohonom ni. Wrth ystyried y pryderon cyffredin ynghylch darpariaeth gwasanaethau Meddyg Teulu yn Llanelli sy’n bodoli eisoes, mae’r posibilrwydd o leihad yn y ddarpariaeth bresennol yn un sy’n codi pryderon enfawr.

Yr wyf i a Lee Waters AC wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Hywel Dda yn gofyn iddo nodi’r cynllun sydd gan y Bwrdd Iechyd i sicrhau parhad gwasanaeth Meddyg Teulu yn yr ardal hon ac i sicrhau bod pob claf sydd wedi ei gofrestru â chanolfan Ash Grove yn parhau i gadw mynediad llawn at wasanaeth Meddyg Teulu lleol.

Mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac i hysbysu’r cyhoedd yn llawn ynghylch unrhyw ddatblygiadau gan wneud yn glir y byddan yn cael eu gwarchod. Nid yw’n dderbyniol cadw trigolion yn aros i ddod i wybod am yr hyn sy’n digwydd.