Home > Uncategorized > Diffyg gweithredu gan Lywodraeth Prydain – Morlyn llanw Abertawe

Nid oedd unrhyw ddathlu yn Abertawe heddiw gyda’r Canghellor unwaith yn eto’n amharod i roi caniatâd adeiladu’r morlyn llanw yn Abertawe.

Mae wir yn siomedig i weld bod llywodraeth y DU yn gwrthod rhoi caniatâd gan ystyried bod cymaint o waith wedi ei wneud eisoes a bod arian gan fuddsoddwyr preifat wedi ei glustnodi ar gyfer y prosiect hwn a allai sicrhau swyddi’n lleol. Nid oes unrhyw risg i’r trethdalwr gan fyddwn ond yn dechrau talu wrth i’r ynni dechrau cael ei greu gan y morlyn.

Mae’n rhaid i’r Llywodraeth dilyn argymhellion adolygiad annibynnol Hendry sy’n nodi ei fod yn bryd bwrw ati ar unwaith er mwyn bod o flaen unrhyw gystadleuaeth ac i fuddsoddi yn ein diwydiant dur er mwyn i ni allu creu’r deunydd sydd eu hangen i adeiladu’r morlyn.