Home > Uncategorized > Cynllun Llafur i daclo anghydraddoldeb byd-eang

Heddiw fe lansiom weledigaeth y blaid Lafur dros Ddatblygu Rhyngwladol – Byd sy’n addas i bawb, nid ond i rai yn unig.

Fel esboniodd Kate Osamor, Yr Ysgrifennydd Cysgodol dros Ddatblygu Rhyngwladol, bydd ein hymagwedd yn un sy’n taclo achosion anghydraddoldeb economaidd ac yn gwireddu uchelgais ein Hamcanion Datblygu Cynaliadwy.

Byddwn hefyd yn diwygio’r Ddeddf Lobio neu ‘Gagio’ er mwyn galluogi elusennau i godi eu lleisiau heb rwystr er mwyn dwyn sylw at effeithiau dewisiadau gwleidyddol.